Yr Ugeinfed Ganrif
1939-1966
Defnyddio’r Adeilad – Canolfan Ddinesig ar raddfa fach
Mae’r adroddiad yn The Building News (1859) yn dangos cyfadeilad mor rhyfeddol oedd yn cael ei godi yn Aberteifi. Roedd hon yn ganolfan ddinesig ar raddfa fach, ac yn llawer mwy na’r neuadd arferol uwchben marchnad, oedd yn gyffredin yn y cyfnod.
Ar y llawr gwaelod roedd y Ramadeg Ysgol am Ddim (nawr yn yr Ystafell Radley erbyn hyn, sef ystafell gyfarfod gymunedol ac oedfan ar gyfer digwyddiadau), ynghyd â’i chasgliad o lyfrau, y Llyfrgell Ddiwinyddol (Divinity Library), (y Gegin erbyn hyn) – y prifathro oedd y llyfrgellydd anrhydeddus. Mae drws a oedd gynt yn fynedfa i’r ysgol i’w weld hyd heddiw yn College Row, gyferbyn â’r siop offer pysgota, gyda ‘Cardigan Grammar School 1858’ wedi’i ysgythru yn y garreg [bath stone] uwchben. Ar un adeg roedd grisiau cerrig yn arwain i’r ardal sydd heddiw’n Brif Gyntedd.