Y Safle
Dewiswyd safle’r ‘Free School Bank’ ar gyfer yr adeiladau cyhoeddus newydd a’r marchnadoedd ym 1855, sef y llethr ychydig y tu hwnt i safle’r Porth Gogleddol canoloesol. Roedd hwn yn lleoliad amlwg ym mhen uchaf Stryd y Priordy, stryd oedd yn cael ei chreu ar y pryd.
Bryd hynny, roedd Ysgol Ramadeg 1804, tŷ a lle cadw coets Abraham Morgan, i’w gweld ar y safle hwn, gyda thir agored y tu cefn. Erbyn mis Tachwedd 1856, roedd cynlluniau’r pensaer, R. J. Withers, wedi’u cymeradwyo. Ym mis Gorffennaf 1857, daeth y Ddeddf Seneddol angenrheidiol i law, ar gost enfawr o £943, ac felly cafwyd rhwydd hynt i fwrw at y gwaith.
Ar 8fed Gorffennaf 1858, gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer yr adeiladau newydd gan y Maer, R. D. Jenkins, yn dilyn derbyn tendrau am £1,880/5/0d ar gyfer yr adeiladau blaen a £2,174/15/0d ar gyfer y marchnadoedd. David Jenkins, John Davies a John Thomas o Gilgerran oedd yr adeiladwyr.
‘Gosodwyd y Garreg Sylfaen ar 8fed Gorffennaf gan y Maer, R.D. Jenkins, ynghanol gorfoledd mawr a gynhwysai sain clychau Eglwys y Santes Fair a sŵn tanio tair rownd o ganon y Gorfforaeth yn Netpool gan Mri. Donald a Stephens, pensiynwyr o’r fyddin. Dosbarthwyd casgen naw galwyn o porter ymhlith y gweithwyr; roedd y strydoedd wedi’u haddurno a threfnwyd gorymdaith a ymwelodd yn gyntaf â’r adeilad newydd ar Free School Bank, gan fynd ymlaen wedi hynny i safle’r lladd-dy newydd (Mwldan), yn ôl drwy Feidrfair a Stryd y Santes Fair i’r Groes, drwy Stryd y Bont i Ben y Bont (Bridge End) gan ddychwelyd wedyn i Neuadd y Sir (Shire Hall)’. ‘
WJ Lewis, Y Porth i Gymru, sef Hanes Aberteifi, 1990
Roedd y Adeiladau Cyhoeddus eu hagor yn swyddogol ar 9 Gorffennaf 1860 gyda’r marchnadoedd agor ar y diwrnod canlynol.