
Croeso i Neuadd y Dref, Aberteifi
Mae’r adeilad treftadaeth eiconig hwn yng nghanol Aberteifi wedi gwasanaethu fel canolfan bywyd dinesig a chymunedol y dref ers dros 150 o flynyddoedd. Erbyn hyn, mae Neuadd y Dref wedi ei hadfer i’w gogoniant blaenorol, a hi bellach yw prif oedfan Aberteifi.
P’un ai a ydych yn mynychu ein hamrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau neu’n trefnu priodas, digwyddiad corfforaethol neu arddangosfa, mae Neuadd y Dref yn cynnig man cyfarfod trawiadol, gwirioneddol hanesyddol, sy’n cael ei reoli gan dîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr.